Ein dull o weithredu
Ymgynghori
Rydym yn deall bod pob amgylchedd dysgu yn dod â'i rinweddau, ei heriau, a'i ofynion ei hun. Felly, rydym yn dechrau'r prosiect drwy ymgynghori â'ch tîm rheoli i sicrhau ein bod wedi deall eich briff unigryw yn llawn.
Gall ein tîm profiadol adnabod atebion fel datrysiadau ffotograffiaeth priodol, syniadau dylunio a lliwiau brand yn gyflym, a naws ac apêl y neges yr hoffech ei rhoi ar ei thraws. Mae cynllun a llinell amser yn cael eu creu sy'n gweddu i'ch prosiect fel y gellir ystyried a chymeradwyo pob cam gennych chi.
Creu
Wedyn mae'n amser mynd i'r gwaith! Bydd ein harbenigwyr ffotograffiaeth a fideograffeg yn dechrau dal eich lleoliad ar ei orau, gan ddefnyddio camerâu, dronau, a'r diweddaraf ym maes technoleg cerdded-drwodd Matterport.
Bydd ein crewyr cynnwys arbenigol yn plethu'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n ofynnol yn gyfreithiol, gyda chopi uchelgeisiol i greu testun dwyieithog cryno ac atyniadol. A bydd ein tîm dylunio profiadol yn dod â'r prosiect cyfan at ei gilydd gan ddefnyddio eich lliwiau brand ochr yn ochr â dylunio glân, cyfoes, gan greu asedau diriaethol a digidol a fydd yn eich gosod ar wahân i sefydliadau eraill.
Gwirio
Rydyn ni'n gwybod eich bod chi'n brysur, ond rydyn ni hefyd yn gwybod mai eich gweledigaeth chi yw e, felly rydyn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwirio pob manylyn o'r prosiect gyda chi cyn bod unrhyw beth yn cael ei argraffu neu ei wneud yn fyw i'ch cymuned.
Ym mhob carreg filltir a ddiffinnir yn glir, o'r dewisiadau lluniau terfynol i'r prawf prosbectws, o eiriad eich llyfryn i'r fideograffi o'r awyr ar eich gwefan, byddwn yn sicrhau bod ein gwaith yn gweddu i ethos ac esthetig eich sefydliad.
Cwblhau
Bwriad pob rhan o'r prosiect yw sicrhau cwblhau'n llyfn. Ond nid dyna'r cyfan - mae ein harbenigwyr wrth law y tu hwnt i ddyddiad gorffen eich prosiect. Gallwn helpu gyda phob agwedd ar farchnata addysg, gan gynnwys diweddariadau gwefannau, deunyddiau printiedig ychwanegol, ymgynghoriadau, a chyfleoedd eraill.
Gall Eduview eich cefnogi y tu hwnt i'ch prosbectws newydd a'ch diweddaru i brojectio golwg gadarnhaol a blaengar ar eich ysgol.
"Gyda dros ddegawd o brofiad mewn ffotograffiaeth, creu asedau digidol, ysgrifennu copi, creu cynnwys dwyieithog, dylunio, a chreu gwefannau, mae tîm Eduview yn cynnig gwasanaeth cyflawn a chynhwysfawr i addysgwyr yng Nghymru."